Partneriaeth Natur Leol Castell-nedd Port Talbot
Cadw, gwarchod a gwella natur Castell-nedd Port Talbot yn ne Cymru
Rydym yn cyflawni ein nodau drwy greu partneriaethau rhwng pobl sy’n gwarchod ac yn gofalu am natur yn CNPT, casglu gwybodaeth am gadwraeth rhywogaethau a chynefinoedd yn CNPT, cefnogi datblygiad prosiectau sy’n cyfrannu at nodau’r bartneriaeth, datblygu prosiectau newydd i fynd i’r afael â blaenoriaethau lleol a darparu swyddogaeth ymgynghorol ar y testun o gyflwr byd natur ac adferiad natur yn CNPT.


SEFYLLFA BYD NATUR YN CNPT
Mae asesiad o Gyflwr Byd Natur ein sir wedi datgelu bod byd natur yn CNPT mewn trafferthion ac mewn perygl o fygythiadau fel newid yn yr hinsawdd a datblygiad. Mae angen cymryd camau gweithredu brys i wella cadernid bioamrywiaeth CNPT, yn enwedig y cynefinoedd arfordirol, rhostiroedd a gweundiroedd a glaswelltiroedd lled-naturiol.

Ein Cynllun Gweithredu Adfer Natur
Asesiad o gyflwr natur yn CNPT yw'r cam cyntaf tuag at sicrhau amgylchedd cynaliadwy ac iach, a fydd yn rhoi lle ysbrydoledig i ni i gyd a chenedlaethau'r dyfodol yn CNPT. Y camau gweithredu a awgrymir ar y wefan hon yw ein map ffordd i gyflwyni hyn; ein Cynllun Gweithredu Adfer Natur.
Natur mewn Niferoedd CNPT
21
950
950 hectar o dir sydd wedi'i ddiogelu
70
21
