top of page
NPT LNP / NPT for Nature group on a swift walk in Pontardawe

Partneriaeth Natur Leol CNPT

Mae Partneriaeth Natur Leol CNPT (PNL CNPT) yn cynnwys cynrychiolwyr o ystod eang o sefydliadau ynghyd ag unigolion sydd â diddordeb mewn bywyd gwyllt a rheoli tiroedd yn lleol. Mae’r aelodaeth yn agored i unrhyw sydd â diddordeb gwirioneddol mewn bioamrywiaeth a chadwraeth bywyd gwyllt yn ardal CNPT.

Cyflawnwn ein nodau trwy greu partneriaethau rhwng pobl sy’n amddiffyn natur ac yn gofalu amdani yn CNPT, casglu gwybodaeth am gadwraeth rhywogaethau a chynefinoedd yn CNPT, cefnogi datblygiad prosiectau sy’n cyfrannu at nodau’r Bartneriaeth, datblygu prosiectau newydd sy’n rhoi sylw i flaenoriaethau lleol a chynghori ar sefyllfa byd natur ac adfer natur yn yr ardal. Lle bynnag y bo modd, defnyddiwn ddull gweithredu seiliedig ar dystiolaeth i hwyluso’r gwaith hwn trwy ein presenoldeb mewn grwpiau llywio strategol a thrwy gynnig cyngor i gynghorau cymuned.

PNL CNPT sy’n gyfrifol am yr asesiad o Sefyllfa Byd Natur yng Nghastell-nedd Port Talbot, a gaiff ei adolygu bob pum mlynedd. Adolygir y camau gweithredu sy’n gysylltiedig â’r Rhaglen Adfer Natur bob blwyddyn yng nghyfarfod y bartneriaeth yn y gwanwyn.

Meadow Brown - meadow management training Taibach Community Centre NPT LNP
Galerina Melincwrt Valley (c) Charles Hipkin NPT LNP

Ein Nodau

  • Amddiffyn cynefinoedd presennol, adfer cyn-gynefinoedd a chreu cynefinoedd newydd lle bydd hynny’n briodol.

  • Atal colli bioamrywiaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot a gwella cadernid cynefinoedd ac ecosystemau.

  • Addysgu pobl am bwysigrwydd cynefinoedd bywyd gwyllt a chadw’r fflora a’r ffawna a geir ynddynt.

  • Dylanwadu ac annog gweithgareddau sy’n fwy sensitif i anghenion bioamrywiaeth leol.

  • Cynghori ar gamau gweithredu priodol a fydd yn cadw, yn gwarchod ac yn gwella bioamrywiaeth yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Rhai o’n partneriaid

No posts published in this language yet
Once posts are published, you’ll see them here.

News

bottom of page