Tir Ffermio Amgaeedig
Tir âr, glaswelltir wedi’i wella, waliau cerrig sych a therfynau
Sefyllfa Byd
Natur ar Dir Ffermio Amgaeedig
yn CNPT
Mae ein gwybodaeth am Dir Ffermio Amgaeedig yn CNPT yn gyfyngedig ac mae angen cael mwy o ddata o arolygon er mwyn deall y cynefin pwysig hwn yn well. Ar hyn o bryd, ni allwn gynnig asesiad rhesymol o gadernid a sefyllfa byd natur yn y math hwn o gynefin.
TROSOLWG
Gallai ardaloedd o dir ffermio amgaeedig gynnwys amrywiaeth o gynefinoedd bioamrywiol megis Glaswelltiroedd Corsiog a Mesotroffig, ond trafodir y cynefinoedd penodol hynny mewn rhannau eraill o’r ddogfen hon o dan benawdau cynefinoedd cyffredinol eraill. Yn achos y ddogfen hon, mae Tir Ffermio Amgaeedig yn cynnwys categorïau fel tir âr, tir pori wedi’i wella, waliau cerrig sych a therfynau caeau yn unig, sy’n gynefin ar gyfer 10% o’r Rhywogaethau â Blaenoriaeth yn CNPT ac yn gwneud cyfraniad arwyddocaol o ran cysylltedd â chynefinoedd cyffredinol eraill megis Rhostiroedd a Gweundiroedd, Glaswelltiroedd wedi’u Lled-wella a Choetiroedd. Mewn mannau addas, mae modd gweld rhywogaethau nodedig megis y Dylluan Wen, y Llinos, yr Ehedydd, yr Ysgyfarnog a Gweirglöyn Bach y Waun ond nid yw’r un o’r rhain wedi’i gyfyngu i Dir Ffermio Amgaeedig yn unig yn y sir.
​
Nodweddir llawer o’r Tir Ffermio Amgaeedig yn CNPT gan dir pori wedi’i wella yn bennaf sy’n isel ei fioamrywiaeth tra bod y tir âr wedi’i gyfyngu i raddau helaeth i ardaloedd bach rhwng Margam ac Afon Cynffig yn sector de’r sir. Ni chynhaliwyd unrhyw arolygon manwl o’r cynefinoedd hyn. Mae arolygon rhagarweiniol yn awgrymu bod caeau âr yn cynnal cymunedau o fryoffytau nodweddiadol ond ychydig a wyddom am eu fflora chwyn âr. Maen nhw’n cynnig cyfleoedd bwydo pwysig i’r Llinos a’r Ddrudwen, ynghyd â’r Golomen Wyllt a’r Gornchwiglen ambell waith.
​
Yn gyffredinol, mae sefyllfa byd natur y perthi terfyn ar dir ffermio amgaeedig yn wael tra bod y waliau cerrig sych sy’n dal i fodoli mewn cyflwr rhesymol ger y llinell amgáu uchaf, yn cynnig cyfleoedd bridio ar gyfer Tinwen y Garn a chynefinoedd ar gyfer Gwencïod, mamaliaid bach eraill, bryoffytau a chennau.
​
Yn ystod y degawdau diwethaf, mae Tir Ffermio Amgaeedig wedi darparu cynefin pwysig i’r Barcud Coch a’r Boncath ond gwelwyd gostyngiad arwyddocaol mewn bywyd gwyllt ar dir amaethyddol yn CNPT yn ystod yr hanner canrif diwethaf, ac mae colli’r Bras Melyn a’r gostyngiad mawr yn niferoedd adar eraill sy’n gysylltiedig â thir amaethyddol, e.e. y Drudwen a’r Llinos, yn werth eu nodi. Fodd bynnag, mae’r blychau nythu a ddarparwyd ar gyfer y Dylluan Wen mewn adeiladau amaethyddol wedi cael rhywfaint o lwyddiant yn ddiweddar.
​
Y tu hwnt i hyn, mae ein gwybodaeth am sefyllfa byd natur ar dir ffermio amgaeedig yn CNPT yn gyfyngedig gan nad yw cyfran fawr ohono erioed wedi cael ei harolygu ac ychydig iawn o gofnodion sydd gennym ar gyfer y cynefinoedd hyn ar hyn o bryd.
Camau gweithredu ar gyfer adfer Tir Ffermio Amgaeedig yn CNPT
Mae pawb ohonom yn gyfrifol am y camau gweithredu hyn ac felly ni cheisiwyd dyrannu camau gweithredu i sefydliadau neu grwpiau penodol. Yn hytrach, ein gobaith yw y bydd y ddogfen hon yn cynnig canllawiau ac ysbrydoliaeth i unrhyw unigolyn, neu i unrhyw grŵp neu sefydliad, i gymryd y camau gweithredu y mae modd iddynt eu cyflawni. Mae gan Ysgrifenyddiaeth PNL CNPT (Cyngor CNPT) rôl hwyluso wrth gefnogi, casglu a monitro gwaith tuag at y camau gweithredu hyn. Os hoffech chi drafod eich cyfraniad posibl tuag at gyflawni’r camau gweithredu, mae croeso i chi gysylltu â e-bost.
YSGYFARNOG
Mae Ysgyfarnogod i’w canfod ledled CNPT mewn cynefinoedd ar yr arfordir a’r gweundir ac er nad ydynt yn wynebu bygythiad difrifol yn y sir, mae eu niferoedd wedi lleihau o ganlyniad i golli cynefinoedd, erledigaeth a hela. Fe’u gwelir yn fwyaf aml ar dwyni arfordirol ond mae eu niferoedd yno wedi lleihau’n sylweddol yn ystod yr hanner canrif diwethaf, yn enwedig yn Nhwyni Crymlyn, lle caent eu gweld yn aml yn y gorffennol. Fodd bynnag, mae’n galonogol eu gweld yn y system dwyni newydd a datblygol ar Domen y Morfa. Mae poblogaethau’r ysgyfarnog wedi prinhau hefyd yn sgîl colli cynefinoedd yn yr ucheldir o ganlyniad i ddatblygiadau amaethyddiol a choedwigaeth.
EHEDYDD
Mae’r Ehedydd yn dal i fridio’n gyffredin yn CNPT mewn cynefinoedd addas megis twyni tywod, morfeydd heli a thir pori garw ar yr ucheldir. Mae niferoedd arwyddocaol i’w canfod hefyd ar y glaswelltir a adferwyd sydd wedi datblygu ar safle glo brig y Selar uwchben Cwmgwrach. Fodd bynnag, mae gwelliannau amaethyddol a choedwigaeth conifferau wedi cael effaith negyddol arnynt mewn sawl rhan o’r sir. Yn ystod y gaeaf, mae poblogaethau’r ucheldir yn symud i ardaloedd iseldir megis Twyni Crymlyn lle mae adar mudol ar eu taith yn aml yn ymuno â’r adar lleol, gan chwyddo’r niferoedd i fwy na 200 ar hyd yr arfordir.
ASTUDIAETH ACHOS
Prosiect y Dylluan Wen, CNPT
Er bod y Dylluan Wen wedi’i henwi ar y rhestr o rywogaethau sy’n “Achosi’r Pryder Lleiaf” o ran perygl difodiant yn ôl yr Undeb Rhyngwladol er Cadwraeth Natur (IUCN), mae’r aderyn pwysig hwn wedi prinhau ar dir amaethyddol ledled Cymru ac Ewrop gyfan. Mae nifer o resymau dros y dirywiad hwn ond mae colli mannau clwydo a safleoedd nythu yn sgîl cyfnewid hen ysguboriau amaethyddol am adeiladau cyfatebol modern yn un ohonynt. Yn ffodus, mae’r Dylluan Wen yn fwy na pharod i ddefnyddio blychau nythu gwneud sydd, o’u gosod ger cynefin bwydo addas, yn aml yn gallu arwain at raglen bridio a magu lwyddiannus.
​
Yn 2009, aeth PNL CNPT (Fforwm Bioamrywiaeth CNPT ar y pryd) ati i gomisiynu dau arolwg gan Ecolegwyr proffesiynol – Arolwg o Gynefin y Dylluan Wen ac Arolwg o Dylluanod Gwynion sy’n Bridio. Dangosodd yr arolygon fod y boblogaeth fridio yn cynnwys oddeutu 10 pâr ond bod cyfle i gynyddu’r boblogaeth trwy osod blychau nythu. Comisiynwyd Adarwr lleol i godi’r blychau hyn yn y safleoedd a nodwyd yn yr arolygon. Erbyn 2015, roedd 24 o flychau wedi cael eu codi ond dim ond dau ohonynt a gyrhaeddodd y cam magu yn llwyddiannus. Ers hynny, mae aelodau o’r PNL wedi nodi safleoedd eraill addas ar gyfer blychau nythu a hefyd wedi talu am ddeunyddiau i adeiladu rhagor o flychau. Bellach, mae 46 o flychau yn ein dalgylch ac yn 2021, ac roedd 10 o’r rhain wedi cyrraedd y cam magu yn llwyddiannus a chafodd cyfanswm o 34 o gywion eu modrwyo.
​
Mae gwaith cyfredol y grŵp yn cynnwys adeiladu a chodi blychau nythu, cynnal a chadw a glanhau’r blychau, trafod gyda thirfeddianwyr a’u cynghori ynghylch cadwraeth y dylluan wen, monitro llwyddiant y nythod a modrwyo’r cywion. Cynhelir y gwaith monitro a modrwyo o dan drwydded gan fod y Dylluan Wen wedi’i gwarchod o dan Atodlen 1 o Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981.