top of page
Tennant Canal Red Jacket Fen NPT LNP Nature of Neath Port Talbot

Cynefinoedd Dŵr Croyw

Llynnoedd, cronfeydd dŵr a phyllau, afonydd a nentydd, camlesi

Sefyllfa Byd
Natur y Cynefinoedd Dŵr Croyw
yn CNPT

Ceir cynrychiolaeth dda o ecosystemau dŵr croyw yn CNPT ac mae’r rhan fwyaf o’r cynefinoedd penodol yn y categori hwn yn cynnal amrywiaeth eang o blanhigion ac anifeiliaid. Mae hyn yn cynnwys cymunedau dyfrol a chorstir pwysig sy’n cyfrannu at gysylltedd cyffredinol corsydd, ffeniau a gwernau yn y sir. Mae nifer o’r rhain mewn cyflwr da neu resymol ond mae pryderon yn lleol ynghylch llygredd dŵr sy’n deillio o fwyngloddiau a phyllau glo, ewtroffigedd a rhywogaethau anfrodorol ymledol. Er bod ansawdd dŵr yr afonydd yn sicr wedi gwella yn ystod y degawdau diwethaf, sydd wedi helpu poblogaethau o bysgod salmonid a’u hysglyfaethwyr (e.e. y Dyfrgi), mae gofyn gwella ansawdd dŵr ymhellach.

Aseswyd bod cadernid a sefyllfa byd natur mewn ecosystemau dŵr croyw yn CNPT mewn cyflwr gweddol.

TROSOLWG

Mae ecosystemau dŵr croyw yn gynefinoedd i un o bob pump o’r rhywogaethau â blaenoriaeth yn CNPT, y mae llawer ohonynt wedi’u cysylltu’n benodol â’r cynefin hwn. Mae cynefinoedd penodol yn y categori hwn yn cynnwys afonydd ac is-afonydd, camlesi, llynnoedd, cronfeydd dŵr, ffosydd draenio a ffosydd, a nifer o byllau dŵr sydd wedi’u gwasgaru ar draws y sir. Mae’r rhywogaethau â blaenoriaeth yn cynnwys y Dyfrgi, Llygoden Bengron y Dŵr, Gwyach Fawr Gopog, Bronwen y Dŵr, Gwybedog Mannog, Neidr y Gwair, Madfall Gribog, Eog Iwerydd, Brithyll a Sewin, Corryn Rafft y Ffen, Brwynen Flodeuog, Gwair Merllyn, Bidoglys y Dŵr, Cleddlys Arnofiol a Myrdd-ddail Troellennog.

Ymhlith y cyrff dŵr croyw mwy o faint yn CNPT, mae Llyn Fach yn unigryw gan mai hwn yw’r unig lyn mynydd oligotroffig sylweddol ym Morgannwg. Mae’r gymuned ddyfrol a geir yma, sy’n cynnwys Bidoglys y Dŵr, Gwair Merllyn a Chleddlys Arnofio, yn rhoi naws fynyddig unigryw iawn i’r safle. Ar ben hynny, mae’r boblogaeth o Lygod Pengrwn y Dŵr a ddarganfuwyd yno yn ddiweddar, ac y credid cyn hynny ei bod wedi diflannu o’r sir, wedi cadarnhau pwysigrwydd y safle hwn o ran bioamrywiaeth y sir. Ymhlith llynnoedd a chronfeydd dŵr mawr eraill CNPT mae Cronfa Ddŵr Eglwys Nunydd, sy’n safle pwysig ar gyfer yr adar gwyllt sy’n gaeafu yno ac yn gynefin bridio ar gyfer Gwyachod Mawr Copog.

Mae Camlesi Nedd, Abertawe a Thenant yn cynnal amrywiaeth o lystyfiant dyfrol a llystyfiant sy’n codi o’r dŵr ac yn allweddol o ran cysylltu nifer o gynefinoedd ffen, gwern a chors yn y sir (e.e. Cors Crymlyn, Ffen Pant y Sais). Ymhlith y planhigion nodedig mae’r Frwynen Flodeuog, Llafnlys Mawr, Pumnalen y Gors a Rhawn y Gaseg sydd fel arall yn brin yn CNPT. Mae’r holl fursennod a gweision y neidr cyffredin i’w canfod yma ynghyd â rhywogaethau eraill mwy hynod megis y Fursen Las Amrywiol a’r Forwyn Dywyll. Mae presenoldeb Corryn Rafft y Ffen yn yr unig safle yng Nghymru, ar Gamlas Tenant yn arbennig o arwyddocaol. Mae’r ffosydd draenio ar Weunydd Margam yn cynnwys nifer o blanhigion dyfrol prin megis y Saethlys a’r Ffugalaw Bach.

Mae afon Afan ac afon Nedd a’u his-afonydd yn nodedig oherwydd eu poblogaethau o bysgod, yn enwedig salmonidau megis Eog yr Iwerydd, Brithyll a Sewin a hefyd oherwydd y poblogaethau o’r Penlletwad a’r Llysywen Ewropeaidd a geir yno. Mae Pibydd y Dorlan, Bronwen y Dŵr a’r Gwybedog Mannog ymhlith nifer o rywogaethau o adar nodweddiadol a gysylltir â’r afonydd hyn a chroesawyd Dyfrgwn yn ôl yma yn ystod y degawdau diwethaf. Mae Tormaen y Gweunydd sydd wedi colli tir sylweddol yng Nghymru yn dal i’w weld yn aml ar hyd glannau afon Nedd rhwng Aberdulais a Glyn-nedd.

Cofnodwyd bod statws cyrff dŵr y prif gyrsiau dŵr yn CNPT yn Dda/Rhagorol o dan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr. Fodd bynnag, mae nifer o faterion lleol yn dal i achosi pryder ar afonydd a chamlesi’r sir, e.e. rhywogaethau anfrodorol ymledol, llygredd dŵr o byllau glo a mwyngloddiau, gollwng carthion a phroblemau ewtroffigedd eraill.

Freshwater.png
Tennant Canal Red Jacket Fen Freshwater Habitats in NPT

Camau gweithredu ar gyfer adfer Cynefinoedd Dŵr Croyw yn CNPT

Mae pawb ohonom yn gyfrifol am y camau gweithredu hyn ac felly ni cheisiwyd dyrannu camau gweithredu i sefydliadau neu grwpiau penodol. Yn hytrach, ein gobaith yw y bydd y ddogfen hon yn cynnig canllawiau ac ysbrydoliaeth i unrhyw unigolyn, neu i unrhyw grŵp neu sefydliad, i gymryd y camau gweithredu y mae modd iddynt eu cyflawni. Mae gan Ysgrifenyddiaeth PNL CNPT (Cyngor CNPT) rôl hwyluso wrth gefnogi, casglu a monitro gwaith tuag at y camau gweithredu hyn. Os hoffech chi drafod eich cyfraniad posibl tuag at gyflawni’r camau gweithredu, mae croeso i chi gysylltu â e-bost.

Otter Lutra lutra LEP NPT LNP
Dipper Cinclus cinclus NPT LNP River Species

Y DYFRGI

Mae’r cynnydd ym mhoblogaeth Dyfrgwn ar lefel genedlaethol yn ystod y degawdau diwethaf yn rhywbeth y mae’r rhan fwyaf o bobl yn ei ystyried yn arwydd o adnewyddu iechyd a bywiogrwydd naturiol ein cynefinoedd torlannol. Mae’r baw dyfrgi a welir yn helaeth ar greigiau a strwythurau cerrig eraill ar lannau afonydd yn dangos bod Dyfrgwn i’w canfod yn helaeth yn afonydd a chamlesi CNPT. Serch hynny, mae peth tystiolaeth fod eu niferoedd wedi lleihau yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae rhai arwyddion eu bod yn cael eu herlid yn achlysurol.

EOG

Mae eogiaid i’w canfod yn systemau’r holl brif afonydd yn CNPT. Mae’n dod yn fwy a mwy amlwg bod Eogiaid yn wynebu argyfwng ledled y Deyrnas Unedig yn ogystal ag yng Nghymru gyda ffigurau’n awgrymu eu bod wedi prinhau 70% mewn 25 mlynedd (Ymddiriedolaeth Eog Iwerydd). Gallwch ddarllen mwy am hyn yn yr astudiaeth achos isod.

BRONWEN Y DŵR

Mae Bronwennod y Dŵr i’w canfod ger nentydd anllygredig sy’n llifo’n gyflym ac fe’u gwelir yn rheolaidd yn nalgylchoedd y rhan fwyaf o afonydd y sir ar hyd y flwyddyn. Yn 2019 cadarnhawyd o leiaf 12 lleoliad bridio yn CNPT. Mae astudiaethau cyfredol o’r rhywogaeth hon sydd ar y rhestr ambr yn cynnwys rhaglen fodrwyo sydd ar waith ar afon Afan a’i hisafonydd, mewn ymgais i gynyddu ein gwybodaeth am lwyddiant bridio a chyfraddau goroesi yn lleol dros gyfnod o amser.

Prosiectau mewn Cynefinoedd Dŵr Croyw yn CNPT

ASTUDIAETH ACHOS

Eog Iwerydd yn CNPT

Pysgodyn esgynnol yw Eog Iwerydd sy’n gallu byw am hyd at 13 blynedd. Mae’n dod yn fwy a mwy amlwg bod Eogiaid yn wynebu argyfwng ledled y Deyrnas Unedig yn ogystal ag yng Nghymru gyda ffigurau’n awgrymu eu bod wedi prinhau 70% mewn 25 mlynedd (Ymddiriedolaeth Eogiaid yr Iwerydd).

Yn ardal CNPT, nid yw afon Afan nac afon Nedd yn cael eu hystyried yn afonydd pwysig o ran Eogiaid ac felly mae llai o ddata ar gael i gadarnhau eu bod yn prinhau. Fodd bynnag, mae’r data sydd ar gael gan bysgotwyr a Chyfoeth Naturiol Cymru yn awgrymu bod y ffigurau lleol yn cefnogi’r ddamcaniaeth fod y sefyllfa’n argyfyngus. Cofnodwyd yr Eog cyntaf i’w ddal â gwialen am fwy na chan mlynedd ar afon Afan yn 1988. Gwelwyd cynnydd cymharol fach ers hynny gyda ffigurau’r tymor diwethaf (2021) yn 19 Eog, pob un wedi’i ryddhau’n ddianaf. Mae ansawdd dŵr yr afon yn sicr wedi gwella ac mae’n well yn awr nag a fu ers degawdau ac felly dylai hynny annog y pysgod hyn i silio os byddant yn llwyddo i fudo’n ôl o’u mannau bwydo. Mae’n ymddangos bod afon Afan yn dal ei thir fel afon fach, ond mae’n anodd bod yn obeithiol gyda bod cyn lleied o bysgod yn dychwelyd.

Mae ffigurau Eogiaid afon Nedd yn ystod yr 11 mlynedd diwethaf yn dangos lleihad sylweddol o’r 77 Eog a gofnodwyd yn 2011 i’r 16 Eog a gofnodwyd yn 2020.

Ymddengys bod goroesiad gleisiaid a gleisiaid aeddfed yn broblem ar bob afon yn Ne Cymru. Mae’r gyfradd sy’n goroesi ac yn dychwelyd fel oedolion wedi gostwng o 15% yn y 1980au i ddim ond 3% yn fwy diweddar. Mae’r Eog yn sicr yn prinhau o ganlyniad i nifer o ffactorau sy’n amrywio o’r straen ar yr amgylchedd morol i’w effeithlonrwydd bridio mewn dŵr croyw. Gall ddioddef colledion mawr ‘yn yr afon’ o ganlyniad i gyfuniad o rwystrau gwneud a’r adar/Dyfrgwn sy’n eu bwyta. Am y rheswm hwn, bydd y sylw yn y dyfodol yn troi mwy a mwy tuag at daith y gleisiaid i lawr yr afon a thros y goredau niferus. Am y tro, mae ymdrechion ar waith i atal y dirywiad yn y boblogaeth trwy wahanol ddeddfau a mentrau mewn dalgylchoedd dŵr ond y gwir amdani yw bod yr anifeiliaid gwych hyn mewn perygl o ddod yn ystadegyn moel arall.

Clwb Pysgota a Chadwraeth Cwm Afan

bottom of page