top of page
Charles Hipkin Craig y Llyn

​Creigiau a Chlogwyni Mewndirol

Clegyrau agored, sgrïau

Sefyllfa Byd
Natur Creigiau a Chlogwyni Mewndirol
yn CNPT

O’r braidd y mae amrediad a chysylltedd Creigiau a Chlogwyni Mewndirol CNPT wedi newid ers cannoedd o flynyddoedd. Fodd bynnag, mae cyflwr Craig y Llyn wedi dirywio rhywfaint yn ystod y degawdau diwethaf. Mae’r coed Sbriws Sitka sy’n tyfu o hadau a gludwyd ar y glaw o blanigfeydd cyfagos yn goresgyn sgrïau a chlogwyni gan achosi problemau sylweddol, a gall llygredd traffig sy’n deillio o Ffordd Mynydd y Rhigos gerllaw fod yn broblem hefyd. Mae’r weiren wibio a adeiladwyd uwchben Llyn Fawr gerllaw yn ein hatgoffa bod llawer o gynefinoedd clogwyni’r ucheldir yn Ne Cymru o dan bwysau yn sgîl datblygiadau twristiaeth.

​

Ar y cyfan, aseswyd bod cadernid a sefyllfa byd natur y Creigiau a’r Clogwyni Mewndirol yn CNPT mewn cyflwr gweddol.

TROSOLWG

Y clogwyni tywodfaen sy’n wynebu’r gogledd yng Nghraig y Llyn, uwch ben Llyn Fach, yw’r enghraifft bwysicaf o’r math hwn o gynefin ym Morgannwg ac er mai cyfran fach yn unig o’r rhywogaethau â blaenoriaeth yn CNPT sy’n cael eu cynnal yma, mae cymuned o blanhigion boreal ac Arctig-fynyddig â statws unigryw yn y sir. Er enghraifft, mae rhywogaethau megis y Llusen Goch, y Greiglusen, yr Arianllys Bach, y Gorfiaren, y Cnwp-fwsogl Mawr, Rhedynach Teneuwe Wilson, Rhedyn Tridarn, Ffiolredyn Brau, Rhedyn Corniog, Rhedyn Persli, Marchredyn y Mynydd, y Creigfwsogl Du (Andreaea rupestris) a’r Afal-fwsogl Anystwyth naill ai i’w canfod yma yn unig neu maen nhw’n anghyffredin iawn mewn rhannau eraill o CNPT.

​

Mae cerrig brig llai o faint sy’n wynebu’r gogledd, megis y rhai yng Nghraig y Pant yng Nghwm Nedd ac uwch ben y Cymer yn rhan uchaf Cwm Afan hefyd yn cynnal casgliadau diddorol o fryoffytau, sy’n cynnwys Hiclys yr Ucheldir, Paflys Boncyffion a’r Mwsogl sidan destlus (Isopterygiopsis pulchella) ynghyd â’r unig enghreifftiau o’r Dduegredynen Hirgul yn CNPT.

​

Yn y gorffennol, bu’r cynefinoedd hyn yn fannau bridio ar gyfer y Cudyll Coch, yr Hebog Tramor, Crec yr Eithin a Mwyalchen y Mynydd, er nad yw’r olaf wedi bridio yn y sir ers mwy na 50 mlynedd.

Upland rock and cliff NPT LNP Nature
Charles Hipkin Craig y Llyn

Camau gweithredu ar gyfer adfer Creigiau a Chlogwyni Mewndirol yn CNPT

Mae pawb ohonom yn gyfrifol am y camau gweithredu hyn ac felly ni cheisiwyd dyrannu camau gweithredu i sefydliadau neu grwpiau penodol. Yn hytrach, ein gobaith yw y bydd y ddogfen hon yn cynnig canllawiau ac ysbrydoliaeth i unrhyw unigolyn, neu i unrhyw grŵp neu sefydliad, i gymryd y camau gweithredu y mae modd iddynt eu cyflawni. Mae gan Ysgrifenyddiaeth PNL CNPT (Cyngor CNPT) rôl hwyluso wrth gefnogi, casglu a monitro gwaith tuag at y camau gweithredu hyn. Os hoffech chi drafod eich cyfraniad posibl tuag at gyflawni’r camau gweithredu, mae croeso i chi gysylltu â e-bost.

Tonbridge Filmy Fern © Richard Pryce NPT Nature

©Richard Pryce

Kestrel Vaughn Matthews Neath Port Talbot Nature

©Vaughn Matthews

Huperzia selago fir clubmoss Cwm Saerbren Neath Port Talbot NPT Nature

RHEDYN

Mae clegyrau Craig y Llyn yn gartref i sawl rhywogaeth o redyn sy’n brin neu i’w canfod yn anfynych yn ne Cymru ac sy’n achosi pryder cadwraethol. Un o’r rhain yw Rhedynach Teneuwe Wilson, sef planhigyn bach â ffrondau tenau, tryloyw sy’n ffurfio carped ar greigiau fertigol cysgodol. Yn ne Cymru, cyfyngir y rhywogaeth Iwerydd hon i geunentydd llaith a chlogwyni sy’n wynebu’r gogledd, a Chraig y Llyn yw unig safle’r rhywogaeth yn CNPT hyd y gwyddom. Mae hyn hefyd yn wir hefyd yn Marchredynen y Mynydd, rhywogaeth fynyddig ogleddol y mae ffin ddeheuol ei hamrediad ym Mhrydain ym Morgannwg. Mae’r Rhedynen Dridarn a’r Rhedynen Gorniog yn fathau eraill o redyn y mae’n werth eu nodi yma. Mae’r ddwy rywogaeth Foreo-dymherus hyn yn creu arddangosfeydd deniadol yn y cymunedau o blanhigion caled yng Nghraig y Llyn ac nid ydynt i’w gweld ond mewn ychydig iawn o fannau eraill yn y sir.

Y CUDYLL COCH

Mae’r Cudyll Coch bellach ar y Rhestr Goch yng Nghymru ar ôl prinhau’n eang ar draws y wlad. Bernir bod y dirywiad hwn yn gysylltiedig â chynnydd yn nifer yr adar ifanc sy’n marw am eu bod yn methu cael digon o bryfed i’w bwyta, ysglyfaethu gan Weilch Marthin, a gwenwyn llygod. Ar un adeg, roedd y Cudyll Coch yn bridio’n gyffredin yn CNPT, a’i brif gynefinoedd yw glaswelltir garw, lle mae’n ysglyfaethu llygod pengrwn y dŵr, ac ardaloedd arfordirol. Am flynyddoedd lawer, bu’r Cudyll Coch yn bridio o dan do ffatri Ford ger Jersey Marine (Stiwdio’r Bae bellach) ac ar rai clogwyni mewndirol, ond mae’r rhywogaeth wedi prinhau’n aruthrol yn y blynyddoedd diwethaf ac mae’r cofnodion bridio yn fach iawn.

CLWBFWSOGLAU

Mae tair rhywogaeth o glwbfwosglau i’w canfod yn CNPT; y Cnwp-fwsogl Alpinaidd, y Cnwp-fwsogl Mawr a’r Cnwp-fwsogl Corn Carw. Maen nhw’n rhan annatod ac eiconig o fioamrywiaeth ucheldir y sir. Mae eu henw yn gamarweiniol gan nad ydynt yn fwsoglau o gwbl ond yn hytrach yn blanhigion fasgwlaidd sy’n perthyn yn agos i redyn. Yn y gorffennol, pan oedd tir uchel CNPT yn weundir heb ei wella ac wedi’i led-bori, ac yn rhostir corlwyni, byddai rhywogaethau’r Cnwpfwsoglau uchod yn gymharol eang eu cwmpas. Heddiw, maen nhw’n anghyffredin ar ucheldiroedd CNPT lle mae pori dwys yn digwydd. Mae’r Cnwp-fwsogl Mawr i’w ganfod yn unig ar silffoedd tywodfaen a sgri sy’n wynebu’r gogledd ac ar fanciau o rostir corlwyni heb eu pori mewn planigfeydd conifferau. Cyfyngir y Cnwp-fwosgl Alpinaidd a’r Cnwp-fwsogl Corn Carw i’r banciau hyn o rug a llus mewn planigfeydd.  CNPT yw ffin ddeheuol amrediad y Cnwp-fwsogl Alpinaidd, sef y clwbfwsogl prinnaf, yn y Deyrnas Unedig. Mae ein holl rywogaethau o glwbfwsoglau mewn perygl ac o dan fygythiad.

ASTUDIAETH ACHOS

CRAIG Y LLYN

Mae SoDdGA Craig y Llyn yn cynnwys dau bant sy’n wynebu’r gogledd-ddwyrain a achoswyd gan rew neu eira o’r cyfnod Pleistosen yn torri ymyl y Llwyfandir Tywodfaen Penant ac mae hefyd yn cynnwys Llyn Fach islaw. Yma, mae’r clogwyni uchel, y ceunentydd a’r llaciau yn cynnal llawer o rywogaethau mynyddig megis Rhedynach Teneuwe Wilson, y Cnwp-fwsogl Mawr, y Rhedynen Dridarn, Marchredynen y Mynydd a nifer o fryoffytau’r ucheldir sydd fel arall yn anghyffredin yn ne Cymru. Yn Llyn Fach, ceir casgliad o rywogaethau dyfrol anghyffredin sy’n gysylltiedig â llynnoedd oligotroffig ar dir uchel megis Bidoglys y Dŵr, Gwair Merllyn a’r Cleddlys Arnofiol. Mae nifer o’r rhywogaethau hyn yn agos at neu wedi cyrraedd ffin eu dosbarthiad deheuol ym Mhrydain ar y safle hwn. Mae dadansoddiad o’r paill a gadwyd yn Ffos Cenglau wedi darparu data ynghylch trefn y mathau o goetir yn Ne Cymru yn y cyfnod ôlrewlifol.

​

Rheolir Llyn Fach a’r cyffiniau gan Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt De a Gorllewin Cymru (WTSWW) sy’n trefnu arolygon ac yn monitro’r llyn a’r cynefinoedd glaswelltir er mwyn llywio unrhyw benderfyniadau rheoli. Er enghraifft, defnyddir rafftiau arolygu i fonitro’r boblogaeth o Lygod Pengrwn y Dŵr a ddarganfuwyd yma yn ddiweddar a defnyddir dulliau trapio heb greulondeb o dro i dro i gael gwared â’r Minc Americanaidd ysglyfaethus. Mae arferion rheoli eraill yn cynnwys cyflwyno gwartheg yn ystod yr haf er mwyn pori er lles cadwraeth, clirio prysgwydd a chael gwared â chonifferau (Sbriws Sitka yn bennaf) sy’n atgynhyrchu ac yn ymledu ar y safle. Yn ogystal, mae WTSWW yn gweithio i gynyddu dealltwriaeth y cyhoedd o bwysigrwydd y rhywogaethau yn y warchodfa hon a lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol.

Volunteers working at WTSWW Llyn Fach NPT Nature
bottom of page