Tirwedd a Daeareg
Nodweddir CNPT gan: (i) ardal arfordirol i’r gorllewin o draffordd yr M4 sy’n ymestyn ar hyd ochr ddwyreiniol Bae Abertawe o Dwyni Crymlyn i geg afon Cynffig, (ii) dyffrynnoedd y 3 prif afon, sef afonydd Nedd, Afan a rhan uchaf afon Tawe, a (iii) tirwedd ucheldir helaeth sy’n codi i 660m yng Nghraig y Llyn, y man uchaf yn y sir.
Nodwedd ganolog y sir yw Bro Nedd sydd, yn gyfleus iawn, yn rhannu’r sir yn sector y gogledd a sector y de:
​
-
Mae sector y de yn goediog iawn gyda choedwigoedd conifferau ond mae hefyd yn cynnwys darnau helaeth o goetiroedd collddail megis y rhai rhwng Llansawel a Baglan. Mae’r rhan fwyaf o nodweddion naturiol y llain arfordirol, a fu ar un adeg yn cynnwys twyni a gwlyptiroedd dilychwin, wedi newid yn sgîl datblygu diwydiannol. Ger Resolfen, caiff llethr ogledd-orllewinol Bro Nedd ei draenio gan nentydd pwysig, megis Nant Melin-cwrt, y mae ei dyffrynnoedd yn cynnal casgliadau sylweddol o blanhigion sy’n tyfu ar dir is. Cafodd darnau helaeth o Gwm Afan rhwng Pontrhydyfen ac Abergwynfi eu cloddio am lo cyn cael eu coedwigo â chonifferau.
-
Mae sector y gogledd yn wledig i raddau helaeth ac yn cynnwys cymoedd Clydach, Dulais a rhan uchaf cwm Tawe. Mae’n cynnwys planigfeydd conifferau mawr yng Nghreunant a Rheola a nifer o goetiroedd hynafol, megis Maesmelyn a Choed Dyffryn, Craig Gwladus, Coed Tyn yr Heol a Chwm Du. Mae dyffrynnoedd rhaeadrau Pyrddin a rhan isaf afon Nedd Fechan ar hyd y ffin rhwng CNPT a Phowys yn rhan o’r Fforest Law Geltaidd a choetiroedd Iwerydd, sef yr ecosystemau o bwys rhyngwladol sy’n diffinio blaenau nentydd Afon Nedd. Rhostiroedd a gweundiroedd yw nodwedd amlycaf tirwedd sector y gogledd ac mae’r rhan fwyaf o diroedd comin y sir a’i glaswelltiroedd corsiog llawn rhywogaethau i’w canfod yma.
​
Meysydd glo De Cymru yw nodwedd amlycaf daeareg CNPT. Tywodfaen yw ei brigiadau amlycaf, megis Craig y Llyn. Ni cheir braidd dim brigiadau calchaidd yn CNPT ond mae rhywfaint o galchfaen carbonifferaidd ger Rhyd y Fro. Gwelir creigiau cyfres Grut Melinfaen yn nyffrynnoedd rhaeadrau afonydd Nedd Fechan a Phyrddin ger Sir Frycheiniog.