top of page
Cymmer (c) NPTC NPT LNP State of Nature

Sefyllfa Byd Natur yn
CNPT

Mae angen i ni ddeall sut mae natur yn ymdopi yn CNPT, fel y gallwn warchod ein mannau gwyllt. Asesu cyflwr natur yn CNPT yw'r cam cyntaf tuag at amgylchedd iach. Bydd yn ein helpu i gynllunio camau gweithredu i ddarparu lle ysbrydoledig i fyw ynddo i genedlaethau’r dyfodol.

Datgelodd adroddiad Sefyllfa Byd Natur 2019 (Crynodeb i Gymru) rai ystadegau difrifol, gan gynnwys tystiolaeth fod 41% o rywogaethau wedi prinhau yn ystod y 50 mlynedd diwethaf, gydag 17% o rywogaethau Cymru bellach yn wynebu perygl difodiant. Er mwyn deall y tueddiadau a’r pwysau yn lleol, a llywio camau gweithredu i hybu adferiad, mae Partneriaeth Natur Leol Castell-nedd Port Talbot (PNL CNPT) wedi cynnal asesiad o Sefyllfa Byd Natur yn y sir, yn gysylltiedig â Chynllun Gweithredu Adfer Natur.

​

Gan ddefnyddio'r dystiolaeth sydd ar gael i ni, rydym wedi gwneud asesiad o gyflwr natur cynefinoedd CNPT. Rydym wedi grwpio'r cynefinoedd hyn yn 11 categori cynefin eang. Yn anffodus, o'r 11 categori cynefin hyn, dau yn unig sydd mewn cyflwr da. Bydd angen gweithredu ar frys i wella cyflwr byd natur yn CNPT. Dewch i ddarganfod rhagor am bob cynefin drwy glicio ar y dolenni isod.

Dosbarthwyd y cynefinoedd yn ardal CNPT yn 11 o gategorïau cyffredinol a rhannwyd pob un o’r rhain ymhellach yn isgategorïau neu’n gynefinoedd penodol. Mae rhai o’r cynefinoedd hyn yn cynnal niferoedd mawr o rywogaethau â blaenoriaeth ond mae eu bioamrywiaeth o dan fygythiad neu o dan bwysau oherwydd, er enghraifft, datblygu ac esgeulustod. Mae cadernid y cynefinoedd hyn gyda’i gilydd yn ddangosydd da o sefyllfa byd natur yng CNPT. O’r 11 categori o gynefinoedd cyffredinol, aseswyd nad yw naw ohonynt yn cyrraedd cyflwr da, ac aseswyd bod pump ohonynt mewn cyflwr gwael. Aseswyd bod y Cynefinoedd Coetir a Mosaigau Agored yn y sir yn dda, gyda’r cafeat bod rhywogaethau anfrodorol ymledol yn broblem yn y ddau gategori a bod llawer o Gynefinoedd Mosaig Agored yn wynebu bygythiad datblygu. Rhoddir lliw penodol i ddangos cadernid pob cynefin isod; Coch (cadernid ecosystem gwael), Ambr (cadernid ecosystem gweddol) neu Wyrdd (cadernid ecosystem da)

Map Cynefin

Mae'r map cynefinoedd hwn o CNPT yn dangos dosbarthiad gwahanol fathau o gynefinoedd ar draws y sir. Mae'n fap Cyfnod 1, a luniwyd o ddelweddau o'r awyr 2021.

NPT LNP Phase 1 Habitat Map Key
Phase 1 Habitat Map (c) NPT LNP
Bee Beetle Neath Port Talbot NPT Priority Species

Rhywogaethau â Blaenoriaeth

Lluniwyd rhestr o 237 o rywogaethau â blaenoriaeth ar sail set data cynhwysfawr o’r cofnodion maes a ddarparwyd gan aelodau o Bartneriaeth Natur Leol CNPT dros yr 20 mlynedd diwethaf.

 

Yn ein cronfa ddata ni, mae pob rhywogaeth ar y rhestr yn cael ei chysylltu’n unig â’r cynefin/cynefinoedd lle ceir hyd iddi yn CNPT. Er enghraifft, hyd y gwelir yn ein cofnodion ni, mae Britheg y Gors yn bridio ar laswelltiroedd corsiog yn unig yn CNPT a gellir ei chroesgyfeirio i’r cynefin hwn yn unig yn ein cronfa ddata, er ei bod hi, efallai, yn bridio mewn cynefinoedd eraill (e.e. twyni tywod) mewn mannau eraill. Mae hyn yn caniatáu i ni gynnal asesiad seiliedig ar dystiolaeth o’r amrywiaeth o rywogaethau sydd â blaenoriaeth ym mhob cynefin yn CNPT.

 

Infertebratau a phryfed yn arbennig (e.e. Lepidoptera) yw’r gyfran fwyaf o’n rhywogaethau â blaenoriaeth.  Darperir rhestr lawn o’r rhywogaethau â blaenoriaeth yn CNPT yn Atodiad 2.

PRIORITY SPECIES GRAPH.png

Niferoedd y rhywogaethau â blaenoriaeth a geir yn y gwahanol fathau o gynefinoedd cyffredinol. Mae pwysigrwydd coetiroedd, cynefinoedd arfordirol, glaswelltiroedd a chynefinoedd mosaig agored ar gyfer rhywogaethau â blaenoriaeth yn CNPT yn amlwg.

Adolygu Cyflwr Byd Natur CNPT

Bydd Sefyllfa Byd Natur yn CNPT yn cael ei hadolygu eto 2028.

Caiff y camau gweithredu a’r rhestr o rywogaethau â blaenoriaeth eu hadolygu bob blwyddyn yng nghyfarfod cyntaf Partneriaeth Natur Leol CNPT yn y Flwyddyn Newydd.

​

Os hoffech chi helpu i gyflawni cam gweithredu penodol yn y cynllun, awgrymu adolygiad neu gymryd rhan yn y broses adolygu, anfonwch neges e-bost i’r cyfeiriad.

bottom of page