Cynefinoedd Trefol
Gerddi, peirianneg galed, parciau, seilwaith gwyrdd
Sefyllfa Byd
Natur yn y Cynefinoedd Trefol yn NPT
Mae byd natur yn wynebu heriau sylweddol yn y tirlun trefol ac mae rhywogaethau o dan fygythiad oherwydd colli safleoedd nythu, diffyg cysylltedd a rheoli cynefinoedd yn amhriodol (e.e. torri gwair yn ystod y tymor blodeuo), ymhlith pethau eraill. Er bod y rhan fwyaf o ardaloedd trefol yn CNPT yn cynnwys cynefinoedd bywyd gwyllt, nid yw hyn wedi’i gynllunio mewn llawer o ardaloedd ac mae angen i ragor o fannau mewn ardaloedd trefol gael eu rheoli a’u cynnal a’u cadw yn benodol er lles natur. Mae llawer o rywogaethau mewn cynefinoedd trefol yn CNPT wedi prinhau’n sylweddol yn ystod y degawdau diwethaf, e.e. gwenoliaid duon a draenogod.
​
Mae cynefinoedd trefol yn cynnal 13 o rywogaethau â blaenoriaeth ac felly aseswyd eu bod mewn cyflwr gweddol o ran eu hamrywiaeth. Mae’r cysylltedd rhwng tirweddau trefol yn dda, ond mae’n anodd mynegi hyn yn benodol yn nhermau cysylltedd da rhwng cynefinoedd. Er enghraifft, ni wyddom beth yw lefel y cysylltedd rhwng gerddi yn achos rhywogaethau fel y Draenog a’r Neidr Ddefaid. Ni chaiff y rhan fwyaf o gynefinoedd trefol yn CNPT eu rheoli gyda golwg ar fioamrywiaeth ac mae cynefinoedd yn cael eu colli’n rheolaidd o ganlyniad i weithgareddau dynol, e.e. colli safleoedd nythu gwenoliaid duon wrth i adeiladau gael eu hatgyweirio, felly mae eu cyflwr yn wael. Gan gymryd hyn i gyd i ystyriaeth, aseswyd bod sefyllfa byd natur a chadernid y Cynefinoedd Trefol yn CNPT mewn cyflwr gweddol.
TROSOLWG
Mae Cynefinoedd Trefol megis adeiladau, parciau a gerddi sy’n cynnal 5% o’r Rhywogaethau â Blaenoriaeth yn CNPT er nad oes yr un ohonynt wedi eu cysylltu’n benodol â’r categori o gynefin cyffredinol hwn. Serch hynny, gan fod Cynefinoedd Trefol yn cwmpasu mwy na 15% o arwyneb tir CNPT, mae potensial sylweddol i wella bioamrywiaeth trwy greu a rheoli rhwydweithiau o erddi, parcdir ac adeiladau sy’n cefnogi natur. Maent yn gynefinoedd arbennig o bwysig ar gyfer adar sy’n nythu o dan fondoeon tai, a rhywogaethau o ystlumod sy’n ymgartrefu mewn toeon ac mewn adeiladau dadfeiliedig. Caiff rhywogaethau pwysig eraill megis y Draenog a’r Neidr Ddefaid eu cysylltu’n gyffredin â gerddi trefol. Gall Cynefinoedd Trefol fod yn bwysig o ran cysylltedd, e.e. gall parciau fod yn ‘gerrig camu’ rhwng cynefinoedd ynghanol nodweddion trefol, tra gall tiroedd comin glaswelltog, ymylon ffyrdd a pherthi fod yn ffordd bwysig o gysylltu’r cynefinoedd hyn ar draws yr ardaloedd trefol. Gall gerddi sy’n caru gwenyn fod yn allweddol o ran cadwraeth pryfed peillio.
​
Mae’r Draenog yn rhywogaeth eiconig yn ein gerddi sydd wedi’i gofnodi yn y rhan fwyaf o aneddiadau trefol yn CNPT a gall rhai gerddi gynnig cyfleoedd i’r Mochyn Daear a’r Dyfrgi hefyd. Parc Margam yw un o’r safleoedd gorau ar gyfer ystlumod yn y Deyrnas Unedig, gan ddarparu mannau clwydo a chynefin fforio ar gyfer 14 o’r 18 rhywogaeth o ystlumod yn y Deyrnas Unedig. Mae poblogaethau o Wylan y Penwaig, Aderyn y To a Gwennol y Bondo yn bridio ar adeiladau mewn mannau addas, ond mae niferoedd y Wennol Ddu wedi lleihau yn sylweddol yn ystod y 50 mlynedd diwethaf. Mae llyffantod yn bridio ym mhwll Cwm-Clydach cyn gwasgaru i erddi a chaeau cyfagos am weddill y flwyddyn. Ar hyd ardaloedd trefol Sandfields ac Aberafan, mae modd gweld gwenyn prin gan gynnwys y Gardwenynen Frown a’r Gardwenynen Feinlais yn fforio ar leiniau o flodau gwyllt.
​
O ganlyniad i Gyfnodau Clo COVID yn 2020, sylwodd PNL CNPT fod diddordeb y cyhoedd mewn cadwraeth natur wedi cynyddu wrth i bobl ddod yn fwy ymwybodol o natur yn eu hardaloedd leol. Mae hwn yn gyfle pwysig i annog gweithredu priodol a chynyddu ymwybyddiaeth o sut gall pobl leol helpu natur yn lleol heb achosi niwed yn anfwriadol.
Camau gweithredu ar gyfer adfer Cynefinoedd Trefol yn CNPT
Mae pawb ohonom yn gyfrifol am y camau gweithredu hyn ac felly ni cheisiwyd dyrannu camau gweithredu i sefydliadau neu grwpiau penodol. Yn hytrach, ein gobaith yw y bydd y ddogfen hon yn cynnig canllawiau ac ysbrydoliaeth i unrhyw unigolyn, neu i unrhyw grŵp neu sefydliad, i gymryd y camau gweithredu y mae modd iddynt eu cyflawni. Mae gan Ysgrifenyddiaeth PNL CNPT (Cyngor CNPT) rôl hwyluso wrth gefnogi, casglu a monitro gwaith tuag at y camau gweithredu hyn. Os hoffech chi drafod eich cyfraniad posibl tuag at gyflawni’r camau gweithredu, mae croeso i chi gysylltu â e-bost.
© Vaughn Matthews
© Vaughn Matthews
Y DRAENOG
Mae’r Draenog wedi’i gofnodi’n dda yn y rhan fwyaf o ardaloedd trefol CNPT, er bod llawer o’r cofnodion hyn yn ymwneud â marwolaethau ar y ffyrdd. Mae peryglon croesi ffyrdd, ynghyd â phwysau eraill megis rhwystrau rhwng gerddi a defnyddio pelenni gwenwynig i ladd gwlithod yn cyfrannu at ddirywiad y rhywogaeth eiconig hon. Mae’r ffasiwn o ran gerddi ‘taclus’, hawdd eu cynnal yn golygu bod ‘cyfaill y garddwr’ yn colli rhagor o gynefin.
Y WENNOL DDU
Mae’r ymwelydd haf hwn yn bridio’n bennaf mewn ardaloedd trefol yn CNPT ond yn ôl y cofnodion mae nifer yr adar y cadarnhawyd eu bod yn bridio wedi lleihau yn y blynyddoedd diwethaf. Credir bod y dirywiad hwn i raddau yn ganlyniad i golli cyfleoedd nythu wrth i adeiladau gael eu hadnewyddu yn unol â safonau modern. Gallai darparu blychau nythu neu gynnwys briciau gwenoliaid duon mewn adeiladau addas helpu i gynyddu nifer y safleoedd nythu sydd ar gael.
Y LLYFFANT
Rhywogaeth arall sy’n dueddol o farw ar y ffyrdd yn CNPT yw’r Llyffant. Yn y gwanwyn, mae cannoedd o lyffantod yn mudo ar draws yr ardaloedd trefol er mwyn cyrraedd eu pyllau bridio. Mae’r astudiaeth achos isod yn disgrifio sut mae rhai o aelodau’r PNL yn gweithio i wella’r sefyllfa hon. Mae’n debygol bod Llyffantod wedi’u dosbarthu’n dda yn CNPT, ond maen nhw wedi’u tangofnodi.
Prosiectau mewn Cynefinoedd Trefol yn CNPT
ASTUDIAETH ACHOS
Patrôl Llyffantod Bryncoch
Er eu bod yn cael eu cysylltu â dŵr, mae llyffantod ac amffibiaid eraill yn treulio’r rhan fwyaf o’r flwyddyn ar dir. Pan nad ydynt wrth y pyllau bridio, maen nhw ar wasgar yn yr ardaloedd gwledig cyfagos. Fodd bynnag, bob gwanwyn, mae’r llyffantod yn dychwelyd i’w pyllau silio yn eu heidiau. Mae’n well ganddyn nhw byllau dyfnach, mwy o faint na brogaod ac maen nhw’n eithaf teyrngar i safleoedd penodol. Mae hyn yn golygu eu bod yn gorfod teithio’n bell, yn aml trwy ardaloedd trefol lle mae’n rhaid iddynt groesi ffyrdd ar eu taith.
​
Bob blwyddyn ers 2006, yn ystod tymor mudo’r llyffantod (mis Mawrth neu oddeutu hynny), mae aelodau o Grŵp Amgylchedd Bryncoch (GAB) yn mynd allan bob nos i achub llyffantod ar y ffyrdd lleol wrth iddynt deithio i’w pyllau bridio. Yn ystod blwyddyn gyntaf y cynllun hwn, achubwyd 970 o lyffantod ac achubwyd 799 yn 2019. Yn ystod y 13 blynedd diwethaf, mae miloedd o amffibiaid wedi cael eu hachub gan aelodau GAB gyda chymorth nifer mawr o wirfoddolwyr sy’n pryderu bod niferoedd llyffantod a brogaod wedi prinhau yn ystod y degawdau diwethaf.
​
Un o’r problemau mwyaf y mae’n rhaid i GAB ei goresgyn yw achub y nifer mawr o lyffantod sy’n syrthio i mewn i ffosdyllau draenio ar ochrau ffyrdd ac yn methu dianc oddi yno. O ganlyniad, mae’r gwirfoddolwyr yn treulio llawer o’u hamser ar “batrôl llyffantod” yn codi’r caeadau oddi ar ffosdyllau ac yn achub y llyffantod â rhwydi pysgota. Maen nhw wedyn yn rhoi’r llyffantod wedi’u hachub mewn bwcedi ac yn mynd â nhw yn syth i’r pwll silio. Er mwyn lleihau’r amser sy’n cael ei dreulio ar wirio pob ffosdwll, gwnaeth y grŵp gais i’r PNL am gyllid i brynu ‘ysgolion llyffantod’, sef strwythurau a ddyluniwyd yn benodol i eistedd yn y ffosdyllau a galluogi’r llyffantod i ddianc ar ôl cwympo i mewn iddynt. Llwyddodd y PNL i brynu deg ysgol ar gyfer y grŵp, a gosodwyd y rhain mewn ffosdyllau o amgylch Bryncoch.