top of page

Bryn Tip

Tomen y Bryn

Bryn Tip is an area of grassland on the edge of the village of Bryn. In the early 20th century it was the site of the Bryn Navigation Colliery, once a busy and prosperous coal mine which provided employment for hundreds of people. Like many local mines, the colliery ceased operation in the 1960s, leaving behind an imposing, sharply pointed, pyramid-like tip of coal spoil. To stabilise it and render it safe from landslip, the tip was eventually landscaped into a lower mound shape, capped and seeded with a remedial grass and legume mixture. Since then, over the decades, Bryn Tip has developed into a species rich open mosaic site that is now designated a Site of Importance for Nature Conservation (SINC).

Ardal o laswelltir ar gyrion pentref y Bryn yw Tomen y Bryn. Ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, hwn oedd safle Pwll Glo Bryn Navigation, sef pwll glo prysur a ffyniannus a oedd yn cyflogi cannoedd o bobl. Fel llawer o byllau glo lleol, fe’i caewyd yn y 1960au, gan adael ar ei ôl domen sylweddol ar ffurf pyramid â chopa bigog. Er mwyn sefydlogi’r domen ac atal tirlithriadau, gwnaed gwaith tirweddu i greu ffurf is a mwy crwn cyn capio’r domen a hau cymysgedd o wair a chiblys i’w hadfer. Yn ystod y degawdau ers hynny mae Tomen y Bryn wedi datblygu’n safle mosaig agored cyfoethog ei rywogaethau sydd bellach wedi’i ddynodi’n Safle o Bwysigrwydd er Cadwraeth Natur (SINC).

There is a surprising habitat diversity here which includes mesotrophic grassland, heathland, wet flushed areas and gorse scrub. Skylark and Meadow Pipit are common species on the upper grass-dominated slopes while Slow-worm and Common (Viviparous) Lizard are frequently observed basking on the edges of the gorse scrub, where there are breeding Linnet.


Bryn Tip is probably the best site in NPT to see Dark-green Fritillary butterflies. In their larval stage, they feed on Common Dog-violet, which is abundant on the site, while the adults, which fly in late spring and early summer, feed on nectar of various plants but seem to like Marsh Thistle, which is also common on the tip. Small Pearl-bordered Fritillary and Grayling also fly here as do more common butterflies such as Small Heath, Common Blue, Small Skipper, Ringlet and others.


One of the most remarkable features of Bryn Tip is its huge population of Bee Orchids which numbered almost one thousand there in 2021. Southern Marsh-orchid also occurs in large numbers but Common Spotted-orchid is much less common. Carline Thistle, a characteristic thistle on coal spoil, is a conspicuous member of the dry, free-draining soils along the main track.


Bryn Tip hosts a number of Sedge species, including Common Sedge, Grey Sedge, Pale Sedge, Pill Sedge, Spiked Sedge, Yellow Sedge, Glaucous Sedge and Green-ribbed Sedge. Yellow Sedge is particularly common in the flushed areas, where you will also find the beautiful Bog Pimpernel. Some of the more conspicuous, colourful tall herbs on the site are both Common and Fragrant Agrimony, Meadowsweet and Great Willowherb.


The main conservation challenge on Bryn Tip is preserving its current grassland condition. Management includes the removal of invasive non-native plant species such as Cotoneasters and Himalayan Balsam and the employment of a sympathetic grazing regime.


A wildlife tower has been recently added to the site in order to provide homes and roosts for various species, including bats.


Mae amrywiaeth rhyfeddol o gynefinoedd yma, gan gynnwys glaswelltir mesotroffig, rhostir, llaciau gwlyb a phrysgwydd eithin. Mae’r Ehedydd a Chorhedydd y Waun yn rhywogaethau cyffredin yn y glaswellt ar y llethrau uwch tra bod Nadroedd Defaid a Madfallod (Bywesgorol) yn aml i’w gweld yn torheulo ar ymyl y prysgwydd eithin, lle mae’r Llinos yn bridio.


Mae’n fwy na thebyg mai Tomen y Bryn yw’r lle gorau yn CNPT i weld y Frithog Werdd. Mae’r larfâu yn bwyta’r Fioled Gyffredin, sy’n doreithiog ar y safle, tra bo’r oedolion, sy’n hedfan ar ddiwedd y gwanwyn a dechrau’r haf, yn bwydo ar neithdar gwahanol blanhigion ond maen nhw’n hoff iawn, yn ôl pob golwg, o Ysgall y Gors, sydd hefyd yn gyffredin ar y domen. Gwelir y Fritheg Berlog Fach a’r Gweirlöyn Llwyd yn hedfan yma hefyd ynghyd â gloÿnnod byw mwy cyffredin megis Gweirlöyn Bach y Waun, y Glesyn Cyffredin, y Gwibiwr Bach, Gweirlöyn y Glaw ac eraill.


Un o nodweddion mwyaf trawiadol Tomen y Bryn yw ei phoblogaeth enfawr o Degeiriannau’r Gwenyn, y cyfrifwyd bron mil ohonynt yno yn 2021. Mae Tegeirian-y-gors Deheuol yn niferus iawn yma ond mae’r Tegeirian Brych yn llawer llai cyffredin. Gwelir bod Ysgall Siarl, sy’n fath nodweddiadol o ysgall ar domenni glo yn tyfu’n amlwg yn y pridd sych, sy’n draenio’n dda, ar hyd ymyl y prif lwybr.


Mae Tomen y Bryn yn gartref i nifer o rywogaethau o Hesg, gan gynnwys yr Hesgen Gyffredin, yr Hesgen Lwyd, yr Hesgen Welw, yr Hesgen Bengron, yr Hesgen Ysbigog Borffor, yr Hesgen Felen, Hesgen Lwydlas y Calch a’r Hesgen Ddeulasnod. Mae’r Hesgen Felen yn arbennig o gyffredin yn y llaciau lle mae planhigyn hardd Gwlyddyn-Mair y Gors i’w weld hefyd. Ymysg y llysiau tal, lliwgar ac amlycaf ar y safle, mae Llysiau’r Dryw a Llysiau’r Dryw Peraroglus, Erwain a’r Helyglys Pêr.

 

Y brif her o ran cadwraeth Tomen y Bryn yw diogelu cyflwr y glaswelltir presennol. Mae’r gwaith rheoli yn cynnwys gwaredu rhywogaethau anfrodorol ymledol megis Cotoneaster a Jac y Neidiwr a defnyddio cyfundrefn bori sensitif.


Ychwanegwyd tŵr bywyd gwyllt ar y safle yn ddiweddar er mwyn darparu cartrefi a mannau clwydo ar gyfer gwahanol rywogaethau, gan gynnwys ystlumod.

Gallery

bottom of page