Cwm Du Glen
Dyffryn Cwm Du
Cwm Du Glen is close to Pontardawe Town Centre and may be accessed from a number of points, but most people use the main (signposted) trail which starts near Pontardawe Cross. The site is well known as an area of high aesthetic and biodiversity value with its steep-sided riparian woodland that dresses the lower section of the Upper Clydach Valley.
Mae Dyffryn Cwm Du yn agos at Ganol Tref Pontardawe a cheir mynediad iddo o sawl man ond mae’r rhan fwyaf o bobl yn defnyddio’r prif lwybr (ag arwyddion) sy’n dechrau ger y Groes. Mae’r safle’n adnabyddus fel ardal werthfawr o safbwynt estheteg a bioamrywiaeth gyda’i choetir serth ar lannau’r afon sy’n gorchuddio rhan isaf pen Uchaf Cwm Clydach.
Both sides of the Glen support semi-natural ancient deciduous woodland with a rich flora. Glanrhyd Plantation, which occurs above the Glen on the western side, is dominated by a mixture of native and non-native trees. More than 230 species of plants have been recorded in the Glen, which includes vascular plants (flowering plants and ferns) and a rich assemblage of bryophytes (approximately 90 species).
The river is an important habitat for Dipper and Grey Wagtail and the occasional Kingfisher, which are commonly seen from the main access path. The occurrence of spraint on the riverside rocks indicates that the site is also used by Otter. Wet rocks on the banks support a diverse bryophyte flora which includes common, conspicuous species such as Overleaf Pellia, Great Scented Liverwort, Greater Water-moss and Flagellate Feather-moss, as well as nationally scarce species such as Beck Pocket-moss, Broad-leaf Grimmia and Yellowish Fork-moss.
The riparian woodland that occurs along the banks of the river is dominated by Alder, with Ash and Wych Elm prominent in places. A number of notable ancient woodland indicator species such as Bluebell, Sanicle, Yellow Archangel and Wood Anemone are conspicuous here. Other conspicuous species include Remote Sedge, Pendulous Sedge, Great Wood-rush and Opposite-leaved Golden-saxifrage.
The steep-sided valley woodland is dominated by Sessile Oak but also includes Birch, Ash, Sycamore, Holly, Rowan, Beech and small amounts of Hazel. Neither Sycamore nor Beech are native in the glen, but both are represented by some large mature trees. Plant species in the herb layer here include Wood Sorrel, Enchanter’s Nightshade, Bluebell and various species of ferns. Palmate Germanderwort, an uncommon liverwort in South Wales, occurs on decorticated logs in the valley. Woodland on the east side, in the vicinity of Gelligron waterfall (and above), supports abundant Hard Fern and attractive patches of Wood Horsetail. A large sward of Great Horsetail occurs in the section above the waterfall where there is also a population of Common Cow-wheat.
A good time to visit Cwm Du Glen is late spring and early summer when all our common woodland birds can be seen and heard, plus some notable migrants such as Wood Warbler and Spotted Flycatcher. Cwm Du Glen supports habitats which are suitable for roosting bats, and the whole site provides exemplary opportunities for feeding.
Some nationally scarce moths such as Blomer’s Rivulet and Double Line were recorded by the Glamorgan Moth Recording Group in Cwm Du Glen in 2002. The Double Line is a BAP priority species which depends on the occurrence of Wych Elm in the Glen. Other moths of local significance which have been recorded in Cwm Du Glen include the Sharp-angled Peacock, Scorched Wing, Small Elephant Hawk-moth, Coronet and Beautiful Snout.
Mae dwy ochr y Dyffryn yn cynnal coetir collddail hynafol lled-naturiol sy’n cynnwys cyfoeth o blanhigion. Cymysgedd o goed brodorol ac anfrodorol a geir yn bennaf ym Mhlanhigfa Glanrhyd, uwchben y Dyffryn ar yr ochr orllewinol. Cofnodwyd mwy na 230 o rywogaethau o blanhigion yn y Dyffryn, gan gynnwys planhigion fasgwlaidd (planhigion blodeuol a rhedyn) a chasgliad cyfoethog o fryoffytau (oddeutu 90 o rywogaethau).
Mae’r afon yn gynefin pwysig ar gyfer Bronwen y Dŵr a’r Siglen Lwyd ac ambell Las y Dorlan, sydd i’w gweld yn gyffredin o’r prif lwybr mynediad. Mae’r baw dyfrgi a welir ar greigiau ar lan yr afon yn arwydd bod Dyfrgwn yn defnyddio’r safle hefyd. Mae’r creigiau gwlyb ar y glannau’n cynnal amrywiaeth o fryoffytau, gan gynnwys rhywogaethau cyffredin, amlwg fel y Ffrydlys Cyffredin, yr Afuad Mawr Pêr, y Dyfrfwsogl Mawr a’r plufwsogl Hyocomium armoricum, yn ogystal â rhywogaethau sydd i’w canfod yn anfynych ar lefel genedlaethol megis Fissidens rufulus, Schistidium platyphyllum a’r Fforchfwsogl Melynaidd .
Prif nodwedd y coetir ar lannau’r afon yw coed Gwern, ynghyd â choed Ynn a Llwyfennau Llydanddail amlwg mewn mannau. Mae’n werth nodi bod nifer o rywogaethau dangosol coetir hynafol yn amlwg yma, megis Clychau’r Gog, Clust yr Arth, y Farddanhadlen Felen a Blodyn y Gwynt. Ymhlith y rhywogaethau eraill amlwg mae’r Hesgen Blodau Anghyfagos, yr Hesgen Bendrom, y Goedfrwynen Fawr a’r Eglyn Cyferbynddail.
Derw Mes Di-goes yw nodwedd amlycaf y coetir ar lethrau serth y dyffryn, ond mae coed Bedw, Ynn, Sycamorwydd, Celyn, Criafol, Ffawydd ac ychydig o goed Cyll yma hefyd. Nid yw’r Sycamorwydd na’r Ffawydd yn frodorol i’r Dyffryn, ond cynrychiolir y ddwy rywogaeth gan rai coed llawn dwf mawr. Mae’r rhywogaethau yn yr haen lysiau yma yn cynnwys Suran y Coed, Llysiau Steffan, Clychau’r Gog ac amrywiaeth o rywogaethau o redyn. Mae’r Saetslys Palfog, sef math o lys yr afu sy’n anghyffredin yn ne Cymru, i’w ganfod ar foncyffion dirisgl yn y dyffryn. Mae’r coetir ar ochr ddwyreiniol y dyffryn, ger (ac uwchben) rhaeadr Gelligron yn cynnal Gwibredyn toreithiog a chlystyrau deniadol o Farchrawn y Coed. Ceir gweirdir helaeth o Farchrawn y Coed ar dir uwchben y rhaeadr lle ceir poblogaeth o’r Gliniogai hefyd.
Mae diwedd y gwanwyn a dechrau’r haf yn amser da i ymweld â Dyffryn Cwm Du pan fydd modd gweld a chlywed ein holl adar coetir cyffredin, ynghyd â rhai adar mudol nodedig, megis Telor y Coed a’r Gwybedog Mannog. Mae Dyffryn Cwm Du yn cynnal cynefinoedd sy’n addas ar gyfer ystlumod sy’n clwydo ac mae’r safle cyfan yn cynnig cyfleoedd bwydo rhagorol.
Cafodd rhai gwyfynod sy’n brin ar lefel genedlaethol, megis Crych Blomer a’r Wensgod Fawr, eu cofnodi gan Grŵp Cofnodi Gwyfynod Morgannwg yn Nyffryn Cwm Du yn 2002. Mae’r Wensgod Fawr, sy’n rhywogaeth â blaenoriaeth yn y Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth, yn dibynnu ar y Llwyfenni Llydanddail sy’n tyfu yn y Dyffryn. Mae gwyfynod eraill ag arwyddocâd lleol a gofnodwyd yn Nyffryn Cwm Du yn cynnwys y Seffyr Sgolpiog, yr Adain Ddeifiog, Gwalch-wyfyn Bach Helyglys, y Bidog Yswydd a Thrwynog y Rhos.