top of page

Sand Dune Systems of Baglan Burrows and Crymlyn Burrows

Systemau twyni tywod Twyni Baglan a Thwyni Crymlyn

The coastal edge of NPT sweeps around Swansea Bay, from Swansea University Bay Campus near Jersey Marine, to Morfa Beach at the mouth of the River Kenfig. Two hundred years ago this coastal strip was composed of pristine sand dunes, but much of that has since been lost to industrial development. Only Crymlyn Burrows and Baglan Burrows, which are situated on either side of the Neath river mouth, survive as significant areas of sand dune ecosystems in NPT today, although smaller areas of dunes also occur in the vicinity of Aberavon and Morfa.

Mae arfordir CNPT yn ymestyn ar hyd Bae Abertawe, o Gampws y Bae Prifysgol Abertawe ger Jersey Marine i Draeth y Morfa wrth geg afon Cynffig. Ddau gan mlynedd yn ôl, roedd y llain arfordirol hon yn dwyni tywod dilychwin, ond collwyd llawer o’r rhain o ganlyniad i ddatblygu diwydiannol. Heddiw, Twyni Crymlyn a Thwyni Baglan, ar bob ochr i geg afon Nedd yw’r unig ardaloedd sylweddol o ecosystemau twyni tywod sydd wedi goroesi yn CNPT, er bod darnau llai o dwyni hefyd yng nghyffiniau Aberafan a’r Morfa.

Access to Crymlyn Burrows is easy from the Bay Campus, where there is a Pay and Display car park. Baglan Burrows can be accessed from the coast path near Brunel Dock in Briton Ferry or from the northern end of Aberavon Beach. Both are distinguished by their dynamic, accreting sand dune systems, which sets them apart from many other dunes in Glamorgan and allows them to support diverse mobile sand communities of plants and animals.


Strand line and foredune areas are well developed at both sites, where there are large amounts of Sea Rocket, Prickly Saltwort and Sea Sandwort and occasionally, scattered plants of Frosted Orache. Moving inland, the mobile foredunes have conspicuous populations of Sea Holly, Sea Bindweed, Dune Pansy and Sea Spurge. Dune Fescue, an uncommon grass in Britain, is also found here with Sand Cat’s-tail in amongst the Marram Grass. Sea Stock, which is now a rare plant on Crymlyn Burrows, can still be found in large numbers on Baglan Burrows. This Red Data species, which in the UK is found only in south Wales and the south west of England, is a very significant feature of our dune systems. Further inland the more fixed areas of dune have a very diverse collection of colourful grassland species, which include Pyramidal Orchid, Heath Violet and Kidney Vetch, which is particularly abundant on Crymlyn Burrows. Butterflies such as Small Blue, Brown Argus and the much larger Dark-green Fritillary fly in these biodiverse grasslands in summer.


Unfortunately, many of the diverse dune slack systems that were found on these dunes 50 years ago have been lost. In the 1970s, Fen Orchid, Early Marsh-orchid, Marsh Helleborine, Marsh Lousewort, Marsh Arrowgrass and Round-leaved Wintergreen featured in slack systems on Crymlyn Burrows, but none of these occur there now. However Early Marsh-orchid and Marsh Helleborine can still be found on Baglan Burrows, where there are also significant populations of Yellow Bartsia, Cyperus Sedge, Distant Sedge and Dotted Sedge. Plans and tentative preparations have been made to recreate new dune slacks on Crymlyn Burrows.


Of the birds you are likely to see on the dunes, Stonechat, Linnet and Skylark are particularly conspicuous and, in late spring, Cuckoo are often seen and heard. Winter sometimes brings a Short-eared Owl or Hen Harrier hunting over the dunes, while the strand line areas are good places to look for Snow Bunting at that time of year. Wading birds such as Dunlin, Ringed Plover, Bar-tailed Godwit, Oystercatcher and Curlew occur in varying numbers along the shore line, but the large winter feeding flocks of Sanderling that used to congregate on Crymlyn Burrows until recently have disappeared, probably as a result of relentless disturbance. In spring, small groups of Terns, including Little Tern, can usually be seen flying over the sea close to the shore, and Whimbrel are also seen on passage in spring and early autumn in most years.


Space does not permit a detailed description of the invertebrate fauna of these dunes but you can expect to see the carabid beetle, Broscus cephalotes, hiding under washed-up debris along the strand line, as well as Sand Digger Wasps and sometimes hundreds of Snake Millipedes. Dune Villa flies are also seen commonly resting on the sand on warm summer afternoons.


People are often surprised by the diversity of fungi that occur on our dunes. You might find the Common Bird’s-nest fungus after a careful search of woody debris on the strand line where Dune Brittlestem is common. Less common is the little Dune Inkcap which grows in close association with Marram Grass. Among many other species that occur in the more fixed grassy areas are the beautiful lilac coloured Sordid Blewit and the white Dune Dapperling.

Ceir mynediad hwylus i Dwyni Crymlyn o Gampws y Bae, lle mae maes parcio Talu ac Arddangos. Gellir cael mynediad i Dwyni Baglan o lwybr yr arfordir ger Doc Brunel yn Llansawel neu o ben gogleddol Traeth Aberafan. Nodweddir y ddau safle gan systemau twyni tywod cronnus, dynamig, sy’n golygu eu bod yn wahanol i nifer o dwyni eraill ym Morgannwg ac mae hyn yn caniatáu iddynt gynnal planhigion ac anifeiliaid mewn cymunedau tywod symudol amrywiol.


Ceir ardaloedd traethlin a chyn-dwyni datblygedig ar y ddau safle, lle mae nifer mawr o Hegydd Arfor, Helys Pigog a Thywodlys Arfor i’w gweld ynghyd ag ambell enghraifft wasgaredig o’r Llygwyn Ariannaid. Yn nes at y tir, mae’r cyn-dwyni symudol yn gartref i boblogaethau amlwg o Gelynnen y Môr, y Taglys Arfor, Trilliw’r Twyni a Llaethlys y Môr. Yn ogystal, mae Peisgwellt y Twyni, sy’n fath anghyffredin o laswellt ym Mhrydain, yn tyfu yma ynghyd â Rhonwellt y Tywyn ynghanol y Moresg. Mae’r Murwyll Arfor, sydd bellach yn blanhigyn prin yn Nhwyni Crymlyn, yn dal i fod yn niferus yn Nhwyni Baglan. Mae’r rhywogaeth Data Coch hon, sydd i’w chanfod yn ne Cymru a de-orllewin Lloegr yn unig yn y Deyrnas Unedig, yn nodwedd bwysig o’n systemau twyni. Yn nes at y tir, mae ardaloedd o dwyni mwy sefydlog yn cynnwys casgliad amrywiol iawn o rywogaethau glaswelltir lliwgar, sy’n cynnwys y Tegeirian Bera, Fioled y Rhos a’r Blucen Felen, sy’n arbennig o doreithiog yn Nhwyni Crymlyn. Yn ystod yr haf, gwelir gloÿnnod byw megis y Glesyn Bach, yr Argws Brown a’r Fritheg Werdd, sy’n llawer mwy o faint, yn hedfan trwy’r glaswelltiroedd bioamrywiol hyn.


Gwaetha’r modd, mae llawer o’r systemau llaciau tywod amrywiol a oedd yn rhan o’r twyni hyn 50 mlynedd yn ôl wedi cael eu colli. Yn y 1970au, roedd Tegeirian y Fign Galchog, Tegeirian-y-gors Cynnar, Caldrist y Gors, Melog y Waun, Saethbennig y Gors a Glesyn-y-gaeaf Deilgrwn i’w canfod yn systemau llaciau Twyni Crymlyn, ond nid oes dim o’r rhain yn tyfu yno bellach. Fodd bynnag, mae modd gweld Tegeirian-y-gors Cynnar a Chaldrist y Gors o hyd yn Nhwyni Baglan, lle ceir hefyd boblogaethau sylweddol o’r Gorudd Melyn, yr Hesgen Gynffonnog, yr Hesgen Blodau Pell a’r Hesgen Fannog. Lluniwyd cynlluniau a pharatoadau petrus i ail-greu llaciau tywod newydd yn Nhwyni Crymlyn.


O ran yr adar sy’n debygol o gael eu gweld yn y twyni, mae Clochdar y Cerrig, y Llinos a’r Ehedydd yn amlwg iawn a thuag at ddiwedd y gwanwyn, mae’r Gog i’w gweld a’i chlywed yn aml. Weithiau, daw ambell Dylluan Glustiog neu Foda Tinwyn i hela uwchben y twyni yn y gaeaf, ac mae ardaloedd y traethlin yn fannau da i chwilio am Freision yr Eira ar yr adeg honno o’r flwyddyn. Mae adar hirgoes megis Pibydd y Mawn, y Cwtiad Torchog, y Rhostog Gynffonfraith,  y Bioden Fôr a’r Gylfinir i’w canfod i raddau gwahanol ar hyd ymyl y traeth, ond mae’r heidiau mawr o Bibyddion y Tywod a arferai ymgasglu i fwydo yn Nhwyni Crymlyn tan yn gymharol ddiweddar wedi diflannu, fwy na thebyg o ganlyniad i aflonyddu di-baid. Yn ystod y gwanwyn, mae grwpiau bach o Fôr-wenoliaid, gan gynnwys y Fôr-wennol Fach, i’w gweld yn aml yn hedfan dros y môr yn agos at y lan, a gwelir Coelgylfinirod hefyd ar eu taith yn y gwanwyn a dechrau’r hydref bob blwyddyn bron.


Nid oes digon o le yma i gynnwys disgrifiad manwl o ffawna infertebratau’r twyni hyn ond gellir disgwyl gweld y carabid, Broscus cephalotes, yn cuddio o dan weddillion sy’n dod i’r lan ar hyd y traethlin, yn ogystal â Gwenyn Meirch sy’n tyrchu yn y tywod a channoedd o Nadroedd Miltroed weithiau. Mae’n gyffredin gweld clêr Villa modesta yn gorffwys ar y tywod ar brynhawniau twym yn yr haf.

Mae pobl yn aml yn rhyfeddu at yr amrywiaeth o ffyngau sydd i’w canfod yn ein twyni. Gallech weld ffwng Nyth Aderyn o chwilio’n ofalus trwy’r gweddillion pren ar y traethlin lle mae Coesynnau Brau Moresg yn gyffredin. Mae’r Cap Inc Twyni Bach, sy’n tyfu’n agos at y Moresg, yn llai cyffredin. Mae sawl rhywogaeth arall i’w canfod yn yr ardaloedd glaswelltog mwy sefydlog, gan gynnwys  lliw lelog hyfryd Lepista sordida a ffwng gwyn Pertyn y Twyni (Lepiota erminea).

Gallery

bottom of page