top of page

Some notable ancient deciduous woodlands in the vicinity of Neath and Briton Ferry

Rhai coetiroedd collddail hynafol nodedig yn ardal Castell-nedd a Llansawel

Woodland occupies about 40% of the land area of NPT and although most of this is conifer plantation there is also a substantial amount of ancient, semi-natural Oak woodland. In most there are good paths and trails, and many of these woodlands can be accessed easily.

Coetir yw oddeutu 40% o arwynebedd tir CNPT ac er mai planigfeydd conifferau yw’r rhan fwyaf, mae yna hefyd gryn dipyn o goetir Derw hynafol, lled-naturiol. Mae’r rhan fwyaf yn cynnwys llwybrau da ac mae llawer ohonynt yn cynnig mynediad hwylus.

A significant block of ancient Oak woodland, managed by the Woodland Trust, occurs on the eastern flank of Drumau Mountain between Maesmelin and Dyffryn. Maesmelin Wood is famed for its Blue Ground Beetle population, a nationally rare woodland species and a priority species in NPT and the rest of the UK. Like nearby Darran Wood and Dyffryn Woods, Maesmelin Wood is dominated by Sessile Oak with abundant Holly, Silver Birch and Rowan. There are extensive networks of paths in these woods which allow you to experience wildlife in a tranquil environment. Tyn yr Heol Woods, which can be accessed from Dyffryn Road, is a beautiful valley woodland along the River Clydach near Bryncoch. In spring the colourful ground flora here is replete with Bluebell, Ramsons, Opposite-leaved Golden Saxifrage, Wood Anemone and Yellow Archangel, and a walk through the woods from Dyffryn Road to Main Road in spring or early summer will allow you to experience this.


Craig Gwladus Country Park is a woodland area above Cilfrew and Cadoxton, about 2 miles from Neath town. It has reasonable parking facilities, from which you can gain access to the old dram road. From there you can take a leisurely walk on a straight path below a steep and thickly wooded slope. As you walk west you will reach some stopping points that give great views of Neath and its surroundings. It is worth stopping to look at the extent of semi-natural deciduous woodland there is in this part of the county. Rocky outcrops of Pennant Sandstone can be seen on the south facing slope of the woodland and in some places, rocks dripping with seepage water are covered in bryophytes. Notable among them are the upland liverworts, Straggling Pouchwort and Notched Rustwort, and the impressive dark-green cushions of Mougeot’s Yoke-moss. In many places there are large swards of Great Wood-rush and smaller amounts of Hairy Wood-rush, a good indicator of ancient woodland. In late spring there are impressive displays of Bluebell, particularly in the Beech plantation that is reached as you walk east along the dram road and the whole area is alive with bird song from Robin, Song Thrush, Blackbird, Blackcap and Chiffchaff. If you leave the dram road and head up into the steep woodland you will reach an upper path that takes you through the heart of Craig Gwladus’ ancient oakwood where there are some patches of Wood Anemone. Look out and listen for Wood Warbler if you are here in May or June.


In historic times, there must have been a large, impressive and continuous forest of oak between Tonna and Baglan, which today, we see remnants of in Wenallt Wood, Tonna, Eaglesbush Valley and Briton Ferry. Eaglesbush Valley in Melyn Cryddan, is a Local Nature Reserve. A walk along Foundry Road follows the Cryddan Brook into the heart of the valley where ancient woodland clothes the steep east and north-facing slopes. Bluebell and Wood Sorrel are frequent here but there are also local patches of Wood Anemone and Dog’s Mercury, which are not common components of our valley oak woods. Where the public access road comes to an end there is an area of oakwood on the south-facing side of the valley with a field layer of Purple Moor-grass, which is a notable feature. On the other side of the valley, an uneven, narrow path takes you up into Cupola Wood, an ancient Sessile-oak woodland, with an understory of Bilberry and Heather, that is depicted on some of the earliest maps of Neath and its environs.


Briton Ferry Woods (and the adjacent area of Baglan Woods) is an extensive block of forest, on the west facing slopes below Mynydd y Gaer, made up of ancient oak woodland mixed with Beech and Scots Pine plantations. A forest road, accessible from the back of Jersey Park in Briton Ferry will take you up through a very scenic Beech woodland into the Sessile-oak woodland which stretches around Myndd y Gaer to the northern end of Baglan. Woodland fungi are often abundant in these beechwoods in autumn. If you follow the forest road it will eventually take you to the old Cefn Cwrt Reservoir, which is surrounded by woodland on its northern and eastern flanks, with bilberry and heather, similar to that of Cupola Wood.

Mae darn sylweddol o goetir Derw hynafol, a reolir gan Coed Cadw, ar lethr dwyreiniol Mynydd Drumau rhwng Maesmelin a Dyffryn. Mae safle Coed Maesmelin yn enwog oherwydd ei boblogaeth o’r Chwilen Ddaear Las, sef rhywogaeth goetir sy’n brin ar lefel genedlaethol ac sy’n un o’r rhywogaethau â blaenoriaeth yn CNPT ac yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Yn yr un modd â Choed Darran a Choed Dyffryn gerllaw, coed Derw Mes Di-goes yw’r nodwedd amlycaf yng Nghoed Maesmelin ynghyd â choed Celyn, Bedw Arian a Chriafol toreithiog hefyd. Ceir rhwydweithiau helaeth o lwybrau yn y coetiroedd hyn sy’n caniatáu i bobl fwynhau bywyd gwyllt mewn amgylchedd tawel. Mae Coed Tyn yr Heol, y gellir ei gyrraedd o Heol y Dyffryn, yn goetir hyfryd ar lawr y dyffryn ar lan afon Clydach ger Bryncoch. Yn y gwanwyn, mae’r fflora daear lliwgar yma yn llawn Clychau’r Gog, Craf y Geifr, yr Eglyn Cyferbynddail, Blodyn y Gwynt a’r Farddanhadlen Felen, y gallwch eu gweld trwy gerdded o Heol Dyffryn i’r ffordd fawr yn y gwanwyn neu ar ddechrau’r haf.


Ardal goetir yw Parc Gwledig Craig Gwladus uwchben Cil-ffriw a Llangatwg, ryw ddwy filltir o dref Castell-nedd. Mae cyfleusterau parcio rhesymol yno sy’n cynnig mynediad at yr hen dramffordd. O’r fan honno, gallwch gerdded yn hamddenol ar lwybr syth o dan lethr serth a choediog. Wrth i chi gerdded tua’r gorllewin, fe welwch arosfannau sy’n cynnig golygfeydd gwych dros Gastell-nedd a’r cyffiniau. Mae’n werth sefyll i gael golwg ar yr holl goetir collddail lled-naturiol sydd yn y rhan hon o’r sir. Mae brigiadau creigiog o Dywodfaen Pennant i’w gweld ar lethr y coetir sy’n wynebu’r de ac mewn rhai mannau, mae’r creigiau lle mae dŵr yn diferu wedi’u gorchuddio â bryoffytau. Mae’n werth nodi bod y rhain yn cynnwys llysiau’r afu ucheldir, y Codlys Traphlith a’r Rhydlys Hiciog, ynghyd â chlustogau gwyrdd tywyll trawiadol mwsogl Amphidium mougeotii. Mewn sawl man, gwelir tonnau mawr o Goedfrwyn Mawr a nifer llai o Goedfrwyn Blewog, sy’n ddangosydd da o goetir hynafol. Ar ddiwedd y gwanwyn, mae Clychau’r Gog yn drawiadol, yn enwedig yn y blanhigfa Ffawydd y gellir ei chyrraedd trwy gerdded tua’r dwyrain ar hyd y dramffordd, ac mae’r ardal gyfan yn seinio i gân y Robin, y Fronfraith, yr Aderyn Du, y Telor Penddu a’r Siff Siaff. Gallwch adael y dramffordd a cherdded i fyny i’r coetir serth i gyrraedd llwybr uwch a fydd yn eich arwain i ganol coetir derw hynafol Craig Gwladus, lle mae rhai clystyrau o Flodau’r Gwynt. Os byddwch yma ym mis Mai neu fis Mehefin, fe allech weld neu glywed Telor y Coed.


Yn y gorffennol, mae’n rhaid bod coedwig fawr a thrawiadol o goed derw wedi ymestyn yn ddi-dor rhwng Tonna a Baglan, y mae ei gweddillion i’w gweld heddiw yng Nghoed y Wenallt, Tonna, Cwm Cryddan a Llansawel. Mae Cwm Cryddan, ym Melin Cryddan, yn Warchodfa Natur Leol. Mae modd cerdded ar hyd Heol y Ffowndri gan ddilyn Nant Cryddan i ganol y cwm lle mae coed hynafol yn gorchuddio’r llethrau serth sy’n wynebu’r dwyrain a’r gogledd. Gwelir Clychau’r Gog a Suran y Coed yma yn aml ond mae yma hefyd welyau lleol o Flodau’r Gwynt a Bresych y Cŵn, sy’n llai cyffredin yng nghoetiroedd derw’r dyffrynnoedd. Ym mhen pella’r ffordd fynediad gyhoeddus, mae coed derw yn tyfu ar ochr y cwm sy’n wynebu’r de lle mae cae o Laswellt y Gweunydd yn nodwedd hynod. Ar yr ochr draw, bydd llwybr cul ac anwastad yn eich arwain i fyny i Goed Cupola, sef coetir hynafol o goed Derw Mes Di-goes, gyda Llus a Grug yn tyfu odanynt, sydd wedi’i gynnwys ar rai o’r mapiau cynharaf o Gastell-nedd a’r cyffiniau.


Mae Coed Llansawel (ac ardal Coed Baglan gerllaw) yn ddarn helaeth o goedwig, ar y llethrau sy’n wynebu’r gorllewin o dan Fynydd y Gaer, sy’n cynnwys coetir derw hynafol yn gymysg â’r planigfeydd coed Ffawydd a Phinwydd yr Alban. Bydd ffordd goedwig, y mae modd ei chyrraedd o’r tu ôl i Barc Jersey yn Llansawel, yn eich arwain trwy goetir Ffawydd hyfryd iawn i’r coetir Derw Mes Di-goes sy’n ymestyn o amgylch Mynydd y Gaer i ben gogleddol Baglan. Mae ffyngau coetir yn aml yn doreithiog yn y coedwigoedd ffawydd hyn yn yr hydref. Os dilynwch ffordd y goedwig, cewch eich arwain ymhen tipyn at hen Gronfa Ddŵr Cefn Cwrt, sydd wedi’i hamgylchynu gan goetir ar ei llethrau gogleddol a dwyreiniol lle ceir llus a grug yn debyg i Goed Cupola.

Gallery

bottom of page