top of page

The Nedd Fechan and Pyrddin Valleys

Dyffrynnoedd Nedd Fechan a Phyrddin

From the little village of Pontneddfechan in the north-east corner of NPT, there is a very popular riverside walk that will take you into a temperate rainforest environment that is renowned for its biodiversity and scenic beauty. Parking is available along Pontneathvaughan Road and from there you can access the trail behind the Angel Inn which takes you into the lower Nedd Fechan Valley.

O’i fan cychwyn ym mhentref bach Pontneddfechan yng ngogledd-ddwyrain CNPT, bydd llwybr poblogaidd iawn yn eich arwain ar hyd ochr yr afon i amgylchedd fforest law dymherus sy’n enwog am ei fioamrywiaeth a’i olygfeydd hardd. Mae lleoedd parcio ar gael ar hyd Heol Pontneddfechan ac oddi yno gallwch gael mynediad i’r llwybr y tu ôl i Dafarn yr Angel a fydd yn eich arwain i ran isaf Bro Nedd Fechan.

You are immediately transported into a Celtic landscape where the river forms the border between NPT and Powys. The thick bed of sandstone here, known as the ‘Farewell Rock', marks the end of the Coal Measures - it’s a farewell to coal. From here on you will see boulders of the Millstone Grit series in the river, one of the few places in NPT where this type of rock is exposed. Wych Elm, Small-leaved Lime, Ash and Alder line the river bank, which is rich in bryophytes and ferns. Ramsons, Bluebell, Wood Anemone, Wood Speedwell and Woodruff are conspicuous members of the riparian woodland flora, while Grey Wagtail, Dipper and Goosander are some of the birds you might encounter on the river. The mossy valley woodlands here are typical of the humid, upland Sessile-oak woodlands sometimes described as temperate rainforests. Pied Flycatcher are found here in spring and summer, one of their few remaining breeding sites in the county.


The riverside trail eventually reaches a bridge which will take you across the river and allow you to follow the Nedd Fechan River into Powys. If you stay on the western, NPT, side, the trail now follows the Pyrddin River and quickly takes you to a point where you can view Sgwd Gwladys, one of the famous waterfalls in these headwater valleys. The cool, humid climate here creates perfect conditions for assemblages of Atlantic and hyperoceanic liverworts, such as Prickly Featherwort, Killarney Featherwort, Pearl Pouncewort and Toothed Pouncewort, and the steep, wooded slopes support a Celtic rainforest ground flora dominated by mosses such as Five-ranked Bog-moss which is found nowhere else in NPT.


The flora in the vicinity of the waterfall is remarkable and includes a number of boreal species such as Marsh Hawk’s-beard, Beech Fern, Sharp-leaved Blindia, and Summer-moss. Below the dripping rock face there is a large colony of the beautiful Golden-head Moss and a small population of Welsh Poppy which has been known from this spot for many years and is probably in its only native location in the county.


The Pyrddin Valley becomes difficult to follow above Sgwd Gwladys, and to reach the upper waterfall, Sgwd Einion Gam, you have to cross the river on foot, which is dangerous in places. This spectacular waterfall pours down into a dimly lit amphitheatre where the atmosphere is saturated with mist and spray and where Oak Fern and Stone Bramble, two more boreal species, grow in sheltered crannies.

Byddwch yn camu ar unwaith i dirwedd Geltaidd lle mae’r afon yn ffurfio’r ffin rhwng CNPT a Phowys. Mae’r gwely tywodfaen trwchus yma, o’r enw ‘Craig Ffarwel’ yn nodi diwedd yr Haen Lo – yn ffarwelio â’r glo. O’r fan hon ymlaen fe welwch feini mawr cyfres Grut Melinfaen yn yr afon, un o’r ychydig leoedd yn CNPT lle mae’r math hwn o graig wedi dod i’r golwg. Mae Llwyfenni Llydanddail, Pisgwydd Dail Bach, coed Ynn a Gwern i’w gweld ar hyd y dorlan gyfoethog ei bryoffytau a’i rhedyn. Mae Craf y Geifr, Clychau’r Gog, Blodau’r Gwynt, Rhwyddlwyn y Coed a’r Friwydd Bêr yn aelodau amlwg o blanhigion y coetir ar lannau’r afon, ac mae’r Siglen Lwyd, Bronwen y Dŵr a’r Hwyaden Ddanheddog yn rhai o’r adar y gallech eu gweld ar yr afon. Mae coetiroedd mwsoglyd y dyffrynnoedd hyn yn nodweddiadol o goetiroedd Derw Mes Di-goes llaith yr ucheldir a ddisgrifir weithiau fel fforestydd glaw tymherus. Gwelir y Gwybedog Brith yma yn y gwanwyn a’r haf ac mae hwn yn un o’r ychydig safleoedd lle mae’r aderyn hwn yn dal i fridio yn y sir.


Ymhen amser, bydd llwybr glan yr afon yn cyrraedd pont sy’n croesi’r afon ac yn caniatáu i chi ddilyn afon Nedd Fechan i mewn i Bowys. Drwy aros ar yr ochr orllewinol, sef ochr CNPT, mae’r llwybr bellach yn dilyn Afon Pyrddin ac yn eich arwain yn gyflym at fan lle gallwch weld Sgwd Gwladus, un o raeadrau enwog y dyffrynnoedd blaenddwr hyn. Yma, mae’r hinsawdd oer a llaith yn creu’r amodau perffaith ar gyfer casgliadau o lysiau afu Iwerydd a hypergefnforol, megis y Dueglys Pigog, Dueglys Iwerydd, y Llychlys Perlog a’r Llychlys Danheddog, ac mae’r llethrau coediog serth yn cynnal fflora daear y fforest law Geltaidd lle mae mwsoglau yn nodwedd amlwg, fel mwsogl migwyn Sphagnum quinquefarium, nad yw’n tyfu yn unman arall yn CNPT.


Mae’r fflora ger y rhaeadr yn rhyfeddol ac yn cynnwys nifer o rywogaethau boreal megis Gwalchlys y Gors, y Rhedynen Gorniog, Blindia acuta, a Mwsogl yr Haf. O dan wyneb gwlyb y graig mae cytref fawr o fwsogl euraid hardd Breutelia chrysocoma a phoblogaeth fach o’r Pabi Cymreig sy’n hysbys yn y fan hon ers blynyddoedd, fwy na thebyg yn ei unig leoliad brodorol yn y sir.


Mae’n mynd yn anodd dilyn Dyffryn Pyrddin uwchben Sgwd Gwladus, ac er mwyn cyrraedd y rhaeadr uwch, sef Sgwd Einion Gam, mae’n rhaid croesi’r afon ar droed, sy’n beryglus mewn mannau. Mae’r rhaeadr drawiadol hon yn gollwng i mewn i amffitheatr led-dywyll, laith a niwlog lle mae’r Rhedynen Dridarn a’r Gorfiaren, sef dwy rywogaeth foreal arall, yn tyfu mewn corneli cysgodol.

Gallery

bottom of page